Return to BahaiPrayers.net   Facebook

O ffrydiau pêr Dy dragwyddoldeb dyro i mi yfed, O fy Nuw, ac o ffrwyth pren Dy hanfod gad i mi brofi, O fy Ngobaith! O ffynhonnau crisialaidd Dy gariad caniatâ i mi ddrachtio, O fy Ngogoniant, ac yng nghysgod Dy ragluniaeth ddiddiwedd gad i mi drigo, O fy Ngoleuni! O fewn dolydd dy agosrwydd, ger bron Dy bresenoldeb gad i mi grwydro, O fy Anwylyd, ac ar ddeheulaw gorsedd Dy drugaredd gad i mi eistedd O fy Nymuniad! O awelon pêr Dy lawenydd dyro i anadl ddisgyn arnaf, O fy Nod, a dyro im fynediad i uchelderau paradwys Dy wirionedd, O fy Nghariad! Dyro im glustfeinio alawon colomen Dy undod, O'r Un ysblennydd, a bywhâ fi trwy ysbryd Dy nerth a'th allu, O fy'n Narparwr! Yn ysbryd Dy gariad cadw fi'n gadarn, O fy Nghymorth, a chadarnhâ fy nghamre yn llwybr D'awyddfryd O fy Nghrewr! O flaen Dy wynepryd, yng ngardd D'anfarwoldeb gad i mi aros yn oes oesodd, Tydi yr Hwn wyt drugarog wrthyf, ac ar orseddfainc Dy ogononiant dyro i mi eistedd, O Tydi yr Hwn wyt fy meddiannwr! Cod fi i nefoedd Dy drugaredd, O Tydi sydd yn fy mywhau, a thywys fi tuag at seren ddydd Dy gyfarwyddyd, O Tydi sydd yn fy nenu! Galw fi i fod yn bresennol o flaen datguddiad D'ysbryd anweledig, Ti yr Hwn wyt fy Ngwraidd a'm Dymuniad Pennaf, ac i hanfod bersawr Dy harddwch, a amlygir gennyt, gâd i mi ddychwelyd, O Tydi yr Hwn wyt fy Nuw!

Galluog ydwyt i wneuthur yr hyn a fynni. Tydi, yn wir, yw'r Mwyaf Dyrchafedig, y Mwyaf Gogoneddus, y Goruchaf.

From the sweet-scented streams of Thine eternity give me to drink, O my God, and of the fruits of the tree of Thy being enable me to taste, O my Hope! From the crystal springs of Thy love suffer me to quaff, O my Glory, and beneath the shadow of Thine everlasting providence let me abide, O my Light! Within the meadows of Thy nearness, before Thy presence, make me able to roam, O my Beloved, and at the right hand of the throne of Thy mercy, seat me, O my Desire! From the fragrant breezes of Thy joy let a breath pass over me, O my Goal, and into the heights of the paradise of Thy reality let me gain admission, O my Adored One! To the melodies of the dove of Thy oneness suffer me to hearken, O Resplendent One, and through the spirit of Thy power and Thy might quicken me, O my Provider! In the spirit of Thy love keep me steadfast, O my Succorer, and in the path of Thy good-pleasure set firm my steps, O my Maker! Within the garden of Thine immortality, before Thy countenance, let me abide for ever, O Thou Who art merciful unto me, and upon the seat of Thy glory stablish me, O Thou Who art my Possessor! To the heaven of Thy loving-kindness lift me up, O my Quickener, and unto the Day-Star of Thy guidance lead me, O Thou my Attractor! Before the revelations of Thine invisible spirit summon me to be present, O Thou Who art my Origin and my Highest Wish, and unto the essence of the fragrance of Thy beauty, which Thou wilt manifest, cause me to return, O Thou Who art my God!

Potent art Thou to do what pleasest Thee. Thou art, verily, the Most Exalted, the All-Glorious, the All-Highest.

 


English  
ភាសាខ្មែរ  
አማርኛ.  
Afrikaans  
Alaska Native  
American Indian  
Azərbaycan  
Bahasa Indonesia  
Bahasa Malaysia  
Bidayuh  
Bosanski  
Canadian Indigenous  
Català  
Cebuano  
Česky  
Chamorro  
Chichewa  
Corsica  
Cymraeg  
Daga  
Dansk  
Deutsch  
Dzongkha  
Eesti  
Español  
Esperanto  
Euskara  
Fiji  
Filipino  
Føroyar  
Français  
Frysk  
Hausa  
Hawaiian  
Hiri Motu  
Hrvatski  
Irish  
Íslenska  
Italiano  
Kabyle  
Kalaallisut  
Kiribati  
Kiswahili  
Kreyol Ayisyen  
Kuanua  
Kube  
Latviešu  
Lëtzebuergesch  
Lietuvių  
Luganda  
Magyar  
Malagasy  
Malti  
Māori  
Marshallese  
Melpa  
Montenegrin  
Nalik  
Namibia  
Nederlands  
Norsk  
Papiamentu  
Polski  
Português (BR)  
România  
Sámi  
Samoan  
Sarawak  
Sesotho  
Shqip  
Slovenščina  
Slovensky  
Sranan Tongo  
Srpski српски  
Suomi  
Svenska  
Tetum  
Tiếng Việt  
Tok Pisin  
Tongan  
Türkmençe  
Tuvalu  
Vanuatu  
ελληνικά  
Беларускі  
български  
Кыргыз  
Монгол хэл  
Русский  
Тоҷикӣ  
Україна  
հայերեն  
اُردُو  
العربية  
فارسی  
नेपाली  
मराठी  
हिंदी  
বাংলা  
ગુજરાતી  
தமிழ்  
తెలుగు  
ಕನ್ನಡ  
മലയാളം  
ภาษาไทย  
ພາສາລາວ  
한국어  
日本語  
简体中文  
繁體中文  
Windows / Mac