Return to BahaiPrayers.net
Facebook
O Dydi Drugarog Arglwydd! Ti yr Hwn sydd Haelionus a Galluog! Dy weision ydym, a gysgodwyd dan Dy ragluniaeth. Bwrw olwg dy ffafr arnom. Rho oleuni i'n llygaid, clyw i'n clustiau, a dealltwriaeth a chariad i'n calonnau. Gwna'n heneidiau yn llawen a dedwydd drwy Dy newyddion da. O Arglwydd! Dango i ni lwybr Dy deyrnas, ac adfywhâ ni drwy anadl yr Ysbryd Glân. Dyro i ni fywyd tragwyddol a chyflwyna arnom anrhydedd di-baid. Una'r ddynolryw a goleua fyd dynoliaeth. Bydded i ni oll ddilyn Dy lwybr, dyheu am Dy foddhad a cheisio dirgelion Dy deyrnas. O Dduw! Una ni a chysyllta ein calonnau â'th rwymyn annatod. Yn wir, Tydi yw'r Rhoddwr, Ti yw'r Un Caredig a thydi yw'r Hollalluog.
O Thou compassionate Lord, Thou Who art generous and able! We are servants of Thine sheltered beneath Thy providence. Cast Thy glance of favor upon us. Give light to our eyes, hearing to our ears, and understanding and love to our hearts. Render our souls joyous and happy through Thy glad tidings. O Lord! Point out to us the pathway of Thy kingdom and resuscitate all of us through the breaths of the Holy Spirit. Bestow upon us life everlasting and confer upon us never-ending honor. Unify mankind and illumine the world of humanity. May we all follow Thy pathway, long for Thy good pleasure and seek the mysteries of Thy kingdom. O God! Unite us and connect our hearts with Thine indissoluble bond. Verily,Thou art the Giver, Thou art the Kind One and Thou art the Almighty.
- `Abdu'l-Bahá