Return to BahaiPrayers.net
Facebook
Efe yw'r Tosturiol, yr Haelionus!
O Dduw, fy Nuw! Ti a'm gweli, Ti a'm adnabyddi; Ti yw fy Hafau a'm Noddfa. Ni cheisiais ac ni cheisiaf neb ond Tydi. Ni cherddais ac ni cherddaf lwybr ond llwybr Dy gariad. Yn nyfnder nos anobaith fy llgad a dry yn eiddgar ac yn llawn gobaith at fore Dy ffafr ddiderfyn, a chyda'r wawr fy enaid llaes a adfywhâ ac a gryfhâ yng nghoffadwriaeth o'th harddwch a'th berffeithrwydd. Yr hwn a gymhorthir gan ras Dy faddeuant, er nad ydyw ond diferyn, bydd megis eigion diderfyn; a'r mymryn lleiaf a gymhorthir gan ffrwd Dy drugaredd a ddisgleira megis seren ddisglair.
Cysgoda dan Dy nawdd, O Dydi Ysbryd Purdeb, Ti yr Hwn wyt Ddarparwr Holl Haelionus, y gwas hwn o'r eiddo Ti a swynwyd ac a enynnwyd. Cynorthwya ef yn y byd hwn o fodolaeth i aros yn ddiymod ac yn gadarn yn Dy gariad a dyro i'r aderyn dor-adain hwn gyrraedd noddfa a chysgod yn Dy ddwyfol nyth a drig ar y goeden nefol.
He is the Compassionate, the All-Bountiful! O God, my God! Thou seest me, Thou knowest me; Thou art my Haven and my Refuge. None have I sought nor any will I seek save Thee; no path have I trodden nor any will I tread but the path of Thy love. In the darksome night of despair, my eye turneth expectant and full of hope to the morn of Thy boundless favor and at the hour of dawn my drooping soul is refreshed and strengthened in remembrance of Thy beauty and perfection. He whom the grace of Thy mercy aideth, though he be but a drop, shall become the boundless ocean, and the merest atom which the outpouring of Thy loving-kindness assisteth, shall shine even as the radiant star. Shelter under Thy protection, O Thou Spirit of purity, Thou Whom art the All-Bountiful Provider, this enthralled, enkindled servant of Thine. Aid him in this world of being to remain steadfast and firm in Thy love and grant that this broken-winged bird attain a refuge and shelter in Thy divine nest that abideth upon the celestial tree.
- `Abdu'l-Bahá