Bahá'í Prayers

Cymraeg : Intercalary Days

Permanent Link

 

*Dyddiau o baratoi ar gyfer yr ympryd, dyddiau o gyfeillgarwch, rhyddfrydugrwydd a rhoi anrhegion yw'r Dyddiau Rhyng-Galendraidd (Chwefror 26 hyd Mawrth 1)

Fy Nuw, fy Nhân a'm Goleuni! Mae'r dyddiau a elwaist yr Ayyám-i-Há yn Dy Lyfr wedi cyrraedd, O Tydi yr Hwn wyt yn Frenin enwau, ac mae'r ympryd a gymhellwyd ar bawb sydd yn nheyrnas Dy greadigaeth i gadw gan Dy 'Sgrifbin mwyaf dyrchafedig yn agosáu. Erfyniaf arnot, O f'Arglwydd, trwy y dyddiau hyn a thrwy'r holl rai sydd, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi glynnu wrth rwymyn Dy orchmynion a chydio yn nolen Dy wirebau, i ganiatau i le o fewn cyffiniau Dy lys gael ei benodi ar gyfer pob enaid, ac eisteddle iddynt wrth ddatguddiad ysblander golau Dy wedd.

Rhain, O f'Arglwydd, yw Dy wiesion na pherodd i unrhyw duedd llygredig eu cadw rhag yr hyn yr anfonaist i lawr yn Dy Lyfr. Ymgrymasant o flaen Dy Achos, a dderbyniasant Dy Dy Lyfr â'r penderfyniad hwnnw a annwyd ohonot Ti, ac a ddilynasant yr hyn y gorchmynaist iddynt, ac a ddewisasant i ddilyn yr hyn a anfonwyd i lawr ganddo Ti.

Ti a weli, O f'Arglwydd, fel yr adnabyddasant a chyfaddefasant pa beth bynnag y datguddiasaist yn Dy Ysgrythurau. Rho iddynt yfed, O f'Arglwydd o ddwylo Dy rasoldeb a dyfroedd Dy dragwyddoldeb. Ysgrifenna i lawr, felly, ar eu cyfer yr ad-daliad yr ordeiniasaist ar gyfer yr hwn a drocha ei hun ym môr Dy bresenoldeb, ac a gyrhaeddodd melys win Dy gyfarfod.

Erfyniaf arnat, Tydi Frenin y brenhinoedd a'r Hwn a drugarhâ wrth y gorthrymedig, i ordeinio ar eu cyfer dda'r byd hwn a'r byd a ddaw. Ysgrifenna i lawr iddynt, ymhellach, yr hyn nad oes unrhyw un o'th greaduriaid wedi ei ddarganfod a chyfra hwynt ymysg y rhai a ymgylchasant o'th amgylch, ac a symudant o gwmpas Dy Orsedd ym mhob byd o'th fydoedd.

Tydi, yn wir, yw'r Hollalluog, yr Holl-Wybodol, yr Holl-Hysbysedig.

*(The Intercalary Days, February 26 to March 1, inclusive, should be days of preparation for the Fast, days of hospitality, charity and the giving of presents.)

My God, my Fire and my Light! The days which Thou hast named the Ayyam-i-Ha in Thy Book have begun, O Thou Who art the King of names, and the fast which Thy most exalted Pen hath enjoined unto all who are in the kingdom of Thy creation to observe is approaching. I entreat Thee, O my Lord, by these days and by all such as have during that period clung to the cord of Thy commandments, and laid hold on the handle of Thy precepts, to grant that unto every soul may be assigned a place within the precincts of Thy court, and a seat at the revelation of the splendors of the light of Thy countenance.

These, O my Lord, are Thy servants whom no corrupt inclination hath kept back from what Thou didst send down in Thy Book. They have bowed themselves before Thy Cause, and received Thy Book with such resolve as is born of Thee, and observed what Thou hadst prescribed unto them, and chosen to follow that which had been sent down by Thee.

Thou seest, O my Lord, how they have recognized and confessed whatsoever Thou hast revealed in Thy Scriptures. Give them to drink, O my Lord, from the hands of Thy graciousness the waters of Thine eternity. Write down, then, for them the recompense ordained for him that hath immersed himself in the ocean of Thy presence, and attained unto the choice wine of Thy meeting.

I implore Thee, O Thou the King of kings and the Pitier of the downtrodden, to ordain for them the good of this world and of the world to come. Write down for them, moreover, what none of Thy creatures hath discovered, and number them with those who have circled round Thee, and who move about Thy throne in every world of Thy worlds.

Thou, truly, art the Almighty, the All-Knowing, the All-Informed.

 

Windows / Mac