O FAB YR YSBRYD!
Dyna Fy nghyngor cyntaf: mynnwch galon bur, caredig a disglair, fel y bydded i chi sofraniaeth hynafol, anfarwol a thragwyddol.
O FAB YR YSBRYD!
Yr anwylaf o’r holl wrthrychau yn Fy ngolwg i yw Cyfiawnder, na chefna arno os wyt yn Fy nymuno i, ac na esgeulusa ef fel y gallaf ymddiried ynddot tiDrwy ei gymorth cei weld drwy dy lygaid dy hun ac nid drwy lygaid eraill, a chei wybod drwy dy wybodaeth dy hun yn hytrach na thrwy wybodaeth dy gymydog. Myfyria ar hyn yn dy galon, fel y mae’n gymwys i tiYn wir, cyfiawnder yw Fy rhodd i ti ac arwydd o’m gofal cariadus. Gosod ef felly o flaen dy lygaid.
O FAB Y DYN!
A minnau wedi fy ngwisgo â’m bod tragwyddol ac yn nhragwyddoldeb hynafol Fy hanfod, gwybyddais Fy nghariad atat, felly fe’th greais di, gan gerfio Fy nelwedd arnat a datgelu i ti Fy mhrydferthwch.
O FAB Y DYN!
Cerais dy greu, felly fe’th greaistDyna paham, yr wyt yn Fy ngharu, fel y gallaf enwi dy enw a llenwi dy enaid gydag ysbryd bywyd.
O FAB BODOLAETH!
Cara Fi, fel y boed i Mi dy garu diOs nad wyt yn Fy ngharu nid oes modd i’m cariad dy gyffwrdd di. Gwybydda hyn, O was.
O FAB BODOLAETH!
Fy nghariad yw dy baradwys; dy gartref nefolaidd, dy aduniad â MiDos yno ac na oedaDyma a dynghedwyd i ti yn Ein teyrnas oddi fry ac yn Ein Harglwyddiaeth ddyrchafedig.
O FAB Y DYN!
Os wyt yn Fy ngharu i, cefna ar dy hun; ac os wyt yn ceisio Fy mhleser, nac ystyria dy bleser dy hun; fel y boed i ti farw ynof i a boed i Mi fyw yn dragwyddol ynddot ti.
O FAB YR YSBRYD!
Nid oes heddwch i ti ond trwy iti ymwrthod â dy hun a throi ataf I; canys dy ran yw i ymhyfrydu yn Fy enw, nid yn dy enw dy hun; i ymddiried ynof fi ac nid ynot ti dy hunan, canys dymunaf gael Fy ngharu yn unig ac uwchlaw popeth arall sy’n bod.
O FAB BODOLAETH!
Fy nghariad yw Fy nghadarnle; mae’r sawl a êl iddo yn ddiogel a sicr, a bydd y sawl a dry ymaith oddi wrtho yn sicr o grwydro a threngi.
O FAB LLEFERYDD!
Ti yw Fy nghadarnle; dos i mewn iddo fel boed i ti drigo mewn diogelwchMae Fy nghariad ynddot ti, gwybydda hyn, fel y boed i ti Fy nghael yn agos atat ti.
O FAB BODOLAETH!
Ti yw Fy llusern a Fy ngolau sydd ynddot tiMynna dy ddisgleirdeb oddi wrtho ac na cheisia arall ar wahân i MiCanys fe’th greaist yn gyfoethog a thywalltais Fy mendithion arnat yn hael.
O FAB BODOLAETH!
Fe’th wneuthum â dwylo grym ac fe’th greais â bysedd nerth; a gosodais hanfod Fy ngoleuni o’th fewn. Bydded i ti fodloni arno ac na cheisia ddim arall, canys Fy ngwaith sydd berffaith a’m gorchymyn yn rhwymo. Na chwestiyna ef, na’i amau.
O FAB YR ENAID!
Fe’th greais yn gyfoethog, paham wyt yn dwyn dy hun i dlodi? Fe’th greais yn urddasol, i ba beth yr wyt yn darostwng dy hun? O hanfod gwybodaeth y rhoddais fod i ti, paham wyt yn ceisio dy oleuo gan rhywun oddi eithr Myfi? O glai cariad y lluniais ti, paham wyt yn ymdrafferthu ag eraill? Tro dy lygaid atat dy hun, fel y boed i ti fy narganfod I yn sefyll o’th fewn, yn rymus, yn nerthol ac yn hunangynhaliol.
O FAB Y DYN!
Ti yw Fy arglwyddiaeth ac ni dderfydd Fy arglwyddiaeth; paham felly wyt ti’n ofni dy ddarfod? Ti yw Fy ngoleuni ac ni fydd diffodd byth ar Fy ngoleuni; pam wyt felly yn ofni marwolaeth? Ti yw Fy ngogoniant ac ni phyla fy ngogoniant; ti yw Fy ngwisg ac ni threulir fy ngwisg fythTrig felly yn dy gariad i Mi, fel y boed i ti Fy nghanfod yn nheyrnas gogoniant.
O FAB LLEFERYDD!
Tro dy wyneb at Fy wyneb i ac ymwrthoda â phopeth oddi eithr Myfi, canys Fy sofraniaeth a bery a’m harglwyddiaeth nid yw’n darfodOs ceisia arall oddi eithr Myfi, yn wir, os chwilio’r greadigaeth hyd dragwyddoldeb a wnei, ofer bydd dy gais.
O FAB Y GOLEUNI!
Anghofia popeth oddi eithr Myfi a chymuna gyda’m hysbrydDyma hanfod Fy ngorchymyn, felly tro tuag ato.
O FAB Y DYN!
Bydd fodlon arnaf Fi ac na cheisia gynorthwy-ydd arallCanys ni fedr neb dy fodloni oddi eithr Myfi.
O FAB YR YSBRYD!
Paid gofyn i Mi am yr hyn na ddymunwn Ni ar dy gyfer, yna bydd fodlon ar yr hyn a ordeiniwyd Gennym er dy fwyn, canys hyn fydd o fudd i ti, os bodlona di dy hun ar hynny.
O FAB Y WELEDIGAETH RYFEDDOL!
Anadlais ynot ti anadl o’m Hysbryd Fy hun, fel y boed i ti fod yn garwr i MiPaham dy fod wedi fy ngwrthod i a cheisio anwylyd arall oddi eithr Myfi?
O FAB YR YSBRYD!
Mawr yw Fy hawl arnat, ni ellir ei anghofioMae Fy ngras i ti yn doreithiog, ni ellir ei guddioYmgartrefodd Fy nghariad ynot ti, ni ellir ei geluAmlygir Fy ngoleuni ynot ti, ni ellir ei dywyllu.
O FAB Y DYN!
Ar goeden ddisglair gogoniant crogais y ffrwythau gorau ar dy gyfer, paham y troist ymaith a bodloni dy hun ar yr hyn sy’n llai daionus? Dychwela felly i’r hyn sydd yn well i ti yn y deyrnas fry.
O FAB YR YSBRYD!
Fe’th greais yn urddasol, ac eto darostyngaist dy hunCyfoda felly at yr hyn a grëwyd ar dy gyfer.
O FAB Y GORUCHAF!
At y tragwyddol y galwaf di, eto rwyt yn ceisio’r hyn sy’n darfodPa beth a berodd i ti droi dy gefn ar Ein dymuniad a cheisio dy ddymuniad dy hun?
O FAB Y DYN!
Paid â thorri dy derfynau, na hawlio’r hyn nad yw’n dy wedduYmostynga dy hun o flaen wyneb dy Dduw, Arglwydd gallu a grym.
O FAB YR YSBRYD!
Paid ymffrostio dy hun ar draul y tlawd, canys arweiniaf ef ar ei ffordd a’th ganfod di yn dy gyflwr drygionus a’th felltithio am byth.
O FAB BODOLAETH!
Sut fedraist anghofio dy feiau dy hun ac ymdrafferthu dy hun â beiau eraill? Y sawl a wna hyn a felltithir gennyf.
O FAB Y DYN!
Na anadler pechodau eraill cyhyd a’th fod yn bechadur dy hunOs torrir y gorchymyn hwn gennyt, yn felltigedig y byddet, ac i hyn y tystiaf.
O FAB YR YSBRYD!
Gwybydder gwirionedd: nid yw’r sawl sy’n annog dynion i fod yn gyfiawn ac sydd ei hun yn cyflawni anghyfiawnder ohonof Fi, er iddo ddwyn Fy enw.
O FAB YR ENAID!
Na phriodola i unrhyw enaid yr hyn na fyddet yn priodoli i ti dy hun, ac na honna yr hyn nad wyt yn ei wneuthurDyma fy ngorchymyn i ti, ufuddhau iddo.
O FAB Y DYN!
Na wrthoda Fy ngwas os y gofyn rhywbeth oddi wrthyt, canys ei wyneb ef yw Fy wyneb i; cywilyddia felly o’m blaen i.
O FAB BODOLAETH!
Dwyn dy hun i gyfrif bob dydd rhag i ti gael dy alw i farnedigaeth; canys daw marwolaeth arnat, yn ddirybudd, ac fe elwir arnat i ateb dros dy weithredoedd.
O FAB Y GORUCHAF!
Gwneuthum farwolaeth yn negesydd llawenydd i tiPaham felly wyt ti’n galaru? Gwneuthum y goleuni i dywynnu ei ddisgleirdeb arnatPaham felly wyt ti’n cuddio dy hun oddi wrtho?
O FAB YR YSBRYD!
Cyfarchaf di gyda newyddion da y goleuni: llawenha! Galwaf di i lys sancteiddrwydd; trig o’i fewn fel y boed i ti fyw mewn hedd byth bythoedd.
O FAB YR YSBRYD!
Mae’r ysbryd sanctaidd yn dwyn newyddion da o aduniad i ti; paham felly wyt ti’n galaru? Mae‘’r ysbryd grymus yn dy gadarnhau yn Ei achos, paham felly wyt ti’n cuddio dy hun? Goleuni Ei wyneb sy’n dy arwain, sut fedru di fynd ar goll?
O FAB Y DYN!
Na thristâ oddi eithr dy fod ymhell oddi wrthym NiNa orfoledda oddi eithr dy fod yn nesau ac yn dychwelyd atom Ni.
O FAB Y DYN!
Gorfoledda yn llawenydd dy galon, fel y boed i ti fod yn deilwng i gyfarfod â Mi ac i adlewyrchu Fy mhrydferthwch.
O FAB Y DYN!
Na ddadwisger dy hun o’m gwisg brydferth, ac na fforffeda dy gyfran o’m ffynnon ryfeddol, rhag i ti sychedu byth bythoedd.
O FAB BODOLAETH!
Cerdda yn Fy neddfau am dy fod yn fy ngharu I ac ymwrthoda â’r hyn wyt yn ei ddymuno os wyt yn ceisio Fy mhleser.
O FAB Y DYN!
Na esgeulusa fy ngorchmynion os wyt yn caru Fy mhrydferthwch, ac na anghofia Fy nghynghorion os wyt am ymgyrraedd at Fy mhleser daionus.
O FAB Y DYN!
Pe byddet i wibio drwy anferthedd y gofod a chroesi ehangder y nefoedd, ni fyddai i ti heddwch ond trwy ufudd dod i’n gorchymyn Ni a thrwy ostyngeiddrwydd yn Ein hwyneb.
O FAB Y DYN!
Mawrha Fy achos fe y bydded i Mi ddatgelu dirgelwch Fy mawredd i ti a disgleirio arnat drwy oleuni tragwyddoldeb.
O FAB Y DYN!
Darostwng dy hun o’m blaen, fel y boed i Mi ymweld â thi yn raslonCyfoda yn enw buddugoliaeth Fy achos, fel y boed i ti, tra eto ar y ddaear, ennill y fuddugoliaeth.
O FAB YR ENAID!
Crybwyll Fi ar Fy naear, fel y boed i Mi dy gofio yn Fy nefoedd, felly y bydd i’m llygaid i a’th lygaid di dderbyn cysur.
O FAB YR ORSEDD!
Dy glyw di yw Fy nghlyw I, felly clyw di hynDy lygaid di yw Fy llygaid I, gwêl di felly, fel y boed i ti, yn nyfnderoedd dy enaid, dystiolaethu i’m sancteiddrwydd dyrchafedig, ac y gallaf I o’m mewn Fy hun dystiolaethu dros safle dyrchafedig i ti.
O FAB BODOLAETH!
Ceisia farwolaeth merthyr yn Fy llwybr, yn fodlon ar Fy mhleser ac yn ddiolchgar am yr hyn a ordeiniaf, fel y boed i ti orffwys gyda Mi dan orchudd urddasol tu ôl i dabernacl y gogoniant.
O FAB Y DYN!
Meddwl a myfyriaAi marw ar dy wely yw dy ddymuniad, neu i dywallt dy waed yn y llwch, yn ferthyr i Fy llwybr, a thrwy hynny dod yn ddatguddiad o’m gorchymyn ac yn ddatgelydd Fy ngoleuni yn y baradwys uchaf? Barna’n gywir, O was!
O FAB Y DYN!
Drwy Fy mhrydferthwch! Mae gwlychu dy wallt â’th waed yn fwy yn Fy ngolwg I na chreu’r bydysawd a goleuni’r ddau fydYmdrecha felly i ymgyrraedd at hyn, O was!
O FAB Y DYN!
Ceir arwydd ar gyfer pob pethNerth yw arwydd cariad dan Fy ngorchymyn ac amynedd ydyw dan Fy nhreialon.
O FAB Y DYN!
Hiraetha’r gwir garwr am drallod megis y gwna’r gwrthryfelwr am faddeuant a’r pechadurus am drugaredd.
O FAB Y DYN!
Os na ddaw adfyd i’th ran ar Fy llwybr, sut fedri di gerdded gyda’r rhai sy’n fodlon gyda’m pleser? Os na ddaw treialon i’th ran yn dy awydd i gyfarfod â Mi, sut bydd i ti ymgyrraedd at oleuni drwy dy gariad o’m prydferthwch?
O FAB Y DYN!
Fy anffawd yw Fy rhagluniaeth, yn allanol tân a dialedd ydyw ond yn fewnol goleuni a thrugaredd ywBrysia tuag ato fel y boed i ti fod yn oleuni tragwyddol ac yn ysbryd anfarwolDyma Fy ngorchymyn i ti, ufuddha iddo.
O FAB Y DYN!
Os daw cyfoeth i’th ran, na lawenha; ac os y daw darostyngiad i’th ran, na alara, canys diflanna’r ddau ac ni fyddant fwyach.
O FAB YR ENAID!
Os daw tlodi i’th ran, na fo’n drist; canys mewn amser daw Arglwydd cyfoeth i ymweld â thiPaid ofni darostyngiad, canys daw gogoniant i’th ran rhyw ddydd.
O FAB YR ENAID!
Os yw dy fryd ar yr arglwyddiaeth dragwyddol, annarfodedig hyn, a’r bywyd hynafol a thragwyddol yma, cefna ar y sofraniaeth feidrol a byrhoedlog hwn.
O FAB BODOLAETH!
Nac ymdraffertha dy hun â’r byd hwn, canys drwy dân y profwn aur a thrwy aur y profwn Ein gweision.
O FAB Y DYN!
Rwyt yn dymuno aur a Minnau yn dymuno dy ryddhau oddi wrthoRwyt yn ystyried dy hun yn gyfoethog o’i berchen, a Minnau adnabyddaf dy gyfoeth drwy dy sancteiddrwydd hebddoO fy mywyd! Dyma Fy ngwybodaeth, a dyna dy fryd; sut y gall Fy ffordd I gydredeg â’th ffordd di.
O FAB Y DYN!
Dyro Fy nghyfoeth i’m tlodion, fel y boed i ti dynnu ar helaethrwydd o ysblander anniflanedig a thrysorau o ogoniant annarfodedig yn y nefoeddOnd O Fy mywyd! Pe byddet ond yn medru gweld â’m llygaid I mae offrymu dy enaid yn weithred mwy gogoneddus.
O FAB Y DYN!
Teml bodolaeth yw Fy ngorsedd; pura ef o bob peth, fel y sefydlir Fi yno ac fel y trigaf yno.
O FAB BODOLAETH!
Dy galon di yw Fy nghartref, sancteiddia ef ar gyfer Fy nyfodiadDy ysbryd di yw mangre Fy natguddiad; pura ef ar gyfer Fy ymddangosiad.
O FAB Y DYN!
Rho dy law ar Fy mynwes, fel y bydded i Mi godi uwch dy ben, yn ddisglair ac yn ysblennydd.
O FAB Y DYN!
Esgyn i’m nefoedd, fel y boed i ti ennill llawenydd aduniad, ac yfed o gwpan gogoniant annarfodedig y gwin digyffelyb.
O FAB Y DYN!
Treiglodd llawer dydd tra dy fod yn ymbrysuro dy hun â’th chwantau a’th ddychmygion oferAm ba hyd wyt ti am gysgu ar dy wely? Cwyd dy ben o’th gwsg, canys cododd yr Haul i’w anterth, efallai y gwneith ddisgleirio arnat â goleuni prydferthwch.
O FAB Y DYN!
Disgleiriodd y goleuni arnat o orwel y Mynydd cysegredig ac anadlodd ysbryd y goleuni yn Sinai dy galonFelly, rhyddha dy hun o gysgodion chwantau ofer a dos i’m llys, fel y boed i ti fod yn gymwys ar gyfer bywyd tragwyddol ac yn deilwng i gyfarfod â MiTrwy hynny ni ddaw marwolaeth i’th ran, na blinder na phryderon.
O FAB Y DYN!
Fy nhragwyddoldeb yw Fy nghreadigaeth, fe’th greais ar dy gyferGwna ef yn wisg i dy demlFy undeb yw Fy nghrefftwaith; fe’i lluniwyd ar dy gyfer, gwisg dy hun ag ef, fel y boed i ti fod yn ddatguddiad o’m bodolaeth fythol i hyd dragwyddoldeb.
O FAB Y DYN!
Fy ardderchowgrwydd yw Fy rhodd i ti, a’m mawredd sydd arwydd o’m trugaredd tuag atatNi all neb ddeall nac adrodd yr hyn sy’n Fy ngweddu iYn wir, fe’i cedwais yn ddiogel yn Fy ystordai cudd, ac yn nhrysorfeydd Fy ngorchymyn, fel arwydd o’m gofal cariadus tuag at Fy ngweision a’m trugaredd tuag at Fy mhobl.
O BLANT YR HANFOD DWYFOL AC ANWELEDIG!
Fe’th rwystrir di rhag fy ngharu I ac aflonyddir eneidiau wrth iddynt Fy nghrybwyllCanys ni all meddyliau fy nirnad i na chalonnau fy nghynnwys I.
O FAB PRYDFERTHWCH!
Fy ysbryd a’m ffafr! Fy nhrugaredd a’m prydferthwch! Bu’r cyfan a ddatgelais i ti drwy dafod grym, ac a ysgrifennais i ti gydag ysgrifbin gallu, yn unol â’th ddawn a’th ddeall, nid â’m cyflwr i nac alaw Fy llais.
O BLANT DYNION!
Oni wybyddwch paham y crëwyd chi oll gennym o’r un llwch? Fel na boed un yn dyrchafu ei hun dros y llallMyfyriwch yn eich calonnau yn barhaus ar y modd y crëwyd chiGan Ein bod wedi eich creu chi i gyd o’r un llwch mae’n ddyletswydd arnoch i fod cyffelyb ag un enaid, i gerdded â’r un traed, i fwyta â’r un geg ac i drigo yn yr un tir, fel y bydded, o’ch bodolaeth dyfnaf, ac o ganlyniad i’ch gorchestion a’ch gweithredoedd, i arwyddion undod a hanfod gwrthrychedd gael eu datgeluDyma Fy nghyngor i chi, O gynulliad goleuni! Boed i chi wrando ar y cyngor hwn fel y bydded i chi gaffael ffrwyth sancteiddrwydd o goeden y gogoniant rhyfeddol.
O FEIBION YR YSBRYD!
Chi yw Fy nhrysorfa, canys ynddoch chi y trysorais berlau Fy nirgelion a gemau Fy ngwybodaethGwarchodwch hwy rhag y dieithriaid ymysg Fy ngweision a rhag yr annuwiol ymysg fy mhobl.
O FAB YR HWN A SAFODD YN EI HANFOD EI HUN YN NHEYRNAS EI HUNANIAETH!
Gwybydda, fy mod wedi chwythu holl arogleuon sancteiddrwydd tuag atat, datgelais Fy ngair i ti‘n llawn, perffeithiais Fy ngolud trwyddo ti a dymunais ar dy gyfer yr hyn a ddymunais i Mi Fy hunBydd felly’n fodlon ar Fy mhleser ac yn ddiolchgar i Mi.
O FAB Y DYN!
Ysgrifenna’r cyfan a ddatgelsom i ti gydag inc goleuni ar lechen dy ysbrydOs nad yw hynny’n dy allu, yna gwna dy inc o hanfod dy galonOs na alli wneud hynny, yna ysgrifenna yn yr inc coch hwnnw a dywalltwyd ar Fy llwybrMelysach yw hyn i Mi na’r cyfan oll, fel y boed i’w oleuni barhau yn dragywyddYn Enw Arglwydd Lleferydd, Y Nerthol.
O CHWI BOBL SYDD Â MEDDYLIAU I WYBOD A CHLUSTIAU I GLYWED!
Dyma alwad cyntaf yr Anwylyd: O eos gyfriniol! Nac erys oddi eithr yng ngardd rhosynnau’r ysbryd. O negesydd Solomon y cariad! Na cheisia gysgod oddi eithr yn Sheba’r anwyliaid, ac O ffenics tragwyddol! na thrig oddi eithr ar fynydd ffyddlondeb. Yno mae dy drigfan, os esgynni ar adenydd dy enaid i deyrnas yr anfeidrol a cheisio cyrraedd dy nod.
O FAB YR YSBRYD!
Cais yr aderyn ei nyth; yr eos gyfaredd y rhosyn; tra fod yr adar hynny, calonnau dynion, sy’n fodlon ar lwch byrhoedlog, wedi crwydro’n ymhell o’u nyth tragwyddol, a gyda’u llygaid wedi eu troi tuag at bydew diofalwch sydd amddifad o ogoniant dy bresenoldeb dwyfol. Gwae! Mor rhyfedd a thruenus; troesant eu cefnau ar fôr ymdonnog y Goruchaf er mwyn cwpanaid brin, ac arhosant ymhell oddi wrth y gorwel disgleiriaf.
O GYFAILL!
Yng ngardd dy galon na phlanna ddim oddi eithr rhosyn cariad, a phaid rhyddhau dy afael ar eos serch a dyhead. Trysora gyfeillgarwch y cyfiawn a gochel rhag pob cyfeillach â’r annuwiol.
O FAB CYFIAWNDER!
I ble all carwr fyned ond i wlad ei anwylyd? A pha geisiwr a ddaw o hyd i orffwys ymhell o ddyhead ei galon? I’r gwir garwr bywyd yw aduno, a marwolaeth yw ymwahanu. Ei fynwes sydd wag o amynedd a’i galon sydd heb heddwch. Fe dry ei gefn ar fyrdd o fywydau er mwyn brysio i drigfan ei anwylyd.
O FAB Y LLWCH!
Yn wir, dywedaf wrthych: Ymhlith yr holl ddynion y mwyaf diofal yw’r sawl sy’n herio’n ddi-hid ac sy’n ceisio dyrchafu ei hun ar draul ei frawd. Dywed: O frodyr! Boed i weithredoedd, ac nid geiriau, fod dy addurn i chi.
O FAB Y DDAEAR!
Gwybydda, yn wir, na fydd y galon, yn yr hon yr erys y gwaddod lleiaf o genfigen, fyth yn ymgyrraedd at Fy Arglwyddiaeth dragwyddol, na chwaith yn anadlu aroglau pêr sancteiddrwydd Fy nheyrnas sanctaidd.
O FAB CARIAD!
Rwyt ond un cam o’r uchelderau gogoneddus fry ac o goeden nefolaidd cariad. Cymer un cam a gyda’r nesaf cama ymlaen i’r deyrnas anfarwol a dos i mewn i bafiliwn tragwyddoldeb. Gwranda felly ar yr hyn a ddatgelwyd gan Awdur y Gogoniant.
O FAB Y GOGONIANT!
Bydd chwim ar lwybr sancteiddrwydd, a dos i mewn i nefoedd cymundeb gyda Mi. Pura dy galon â gloywder yr ysbryd, a brysia i lys y Goruchaf.
O GYSGOD DARFODEDIG!
Gad gamau bas amheuaeth o’th ôl a chyfoda i uchelderau dyrchafedig sicrwydd. Agor lygad gwirionedd, fel y boed i ti weld y Prydferthwch diorchudd a datgan: Sancteiddier yr Arglwydd, y creawdwr tra ardderchog.
O FAB DYHEAD!
Gwranda ar hyn: nid adnabyddir y Prydferthwch tragwyddol fyth gan lygad meidrol, ac ni ymhyfryda’r galon ddifywyd mewn dim oddi eithr y blodyn gwywedig. Canys y tebyg a gais ei debyg, ac a ymblesera yng nghwmnïaeth ei gyffelyb.
O FAB Y LLWCH!
Dalla dy lygaid, fel y boed i ti ganfod Fy mhrydferthwch; byddara dy glustiau fel y boed i ti glywed seiniau peraidd Fy llais; ymwacâ dy hun o bob dysg, fel y boed i ti ymgymryd o Fy nealltwriaeth; a sancteiddia dy hun rhag cyfoeth, fel y boed i ti sicrhau cyfran parhaol o gefnfor Fy nghyfoeth tragwyddol. Dalla dy lygaid, hynny yw, i bopeth oddi eithr Fy Mhrydferthwch; byddara dy glustiau i bopeth oddi eithr Fy ngair; gwacâ dy hun o bob dysg oddi eithr dealltwriaeth ohonof i, fel y bydded i ti, gyda gweledigaeth glir, calon bur a chlust astud, fedru myned i mewn i lys Fy sancteiddrwydd.
O FAB DWY WELEDIGAETH!
Cau un llygad ac agor y llall. Cau un i’r byd a phopeth o’i fewn ac agor y llall i brydferthwch sanctaidd yr Anwylyd.
O FY MHLANT!
Ofnaf, yn amddifad o seiniau colomen y nef, y gwnewch lithro’n ôl i gysgodion colledigaeth lwyr, a dychwelyd i ddðr a chlai heb erioed edrych ar brydferthwch y rhosyn.
O GYFEILLION!
Na throwch eich cefn ar brydferthwch tragwyddol er mwyn prydferthwch a fydd farw, ac na rhowch eich bryd ar y byd meidrol hwn o lwch.
O FAB YR YSBRYD!
Mae’r amser yn dyfod, pan na fydd eos sancteiddrwydd mwyach yn datgelu’r dirgelion mewnol a byddwch oll yn amddifad o’r seiniau nefolaidd a’r llais oddi fry.
O HANFOD ESGEULUSTOD!
Mynega myrdd o dafodau cyfriniol eu hunain mewn un llais, a datgelir myrdd o ddirgelion cudd mewn un alaw; serch hynny, gwae, nid oes clust i glywed na chalon i ddeall.
O GYMDEITHION!
Mae’r pyrth a egyr ar y Disafle yn llydan agored ac addurnir trigfan yr anwylyd gyda gwaed y carwr, ond eto erys pawb ond ychydig yn amddifad o’r deyrnas nefolaidd, ac o’r ychydig hyn, dim ond prin llond llaw a ganfyddwyd â chalon bur ac enaid sanctaidd.
O DRIGOLION Y BARADWYS UCHAF!
Datganwch wrth blant sicrwydd bod gardd newydd wedi ymddangos yn nheyrnas gogoniant gerllaw’r baradwys nefolaidd, o amgylch yr hwn y try dinasyddion y deyrnas fry a phreswylwyr anfarwol y baradwys dyrchafedig. Ymdrechwch, felly, fel y boed i chi ymgyrraedd at y safle hwnnw, fel y medrwch ddatrys dirgelion cariad drwy flodau ei awel a dysgu cyfrinach doethineb dwyfol a chyflawn oddi wrth ei ffrwythau tragwyddol. Llygaid y rhai hynny sy’n myned ac yn trigo yno a gysurir!
O FY NGHYFEILLION!
A ydych wedi anghofio’r bore gwyn a disglair hwnnw, yn y lle sanctaidd a bendithiol pan yr ymgasglasoch oll yn fy ngðydd o dan gysgod coeden bywyd, a blannwyd yn y baradwys ogoneddus? Gwrandawsoch ag arswyd wrth i Mi lefaru’r tri gair sancteiddiolaf hyn: O gyfeillion! Na ddeisyfwch eich ewyllys eich hunan dros Fy ewyllys i, na ddymunwch yr hyn nad wyf i wedi ei ddymuno ar eich cyfer, ac na nesewch ataf â chalonnau difywyd wedi eu difwyno gan ddyheadau a chwantau bydol. Pe byddech ond yn sancteiddio eich eneidiau, byddech yr awr hon yn cofio’r man a’r lle, a dylai gwirionedd Fy lleferydd amlygu ei hun i bob un ohonoch.
Yn yr wythfed o’r llinellau sancteiddiolaf, ar y bumed Lechen Paradwys, dywedodd Ef:
O’R SAWL SY’N GORWEDD FEL PE BAI’N FARW AR WELY DIOFALWCH!
Oesoedd a aeth heibio ac mae’ch bywydau gwerthfawr ar ddarfod, ac eto ni ddaeth yr un anadl sanctaidd oddi wrthych i’n llys sanctaidd. Serch eich trochi ym môr anghrediniaeth, eto, gyda’ch gwefusau rydych yn arddel yr un gwir ffydd oddi wrth Dduw. Fe garasoch yr hwn rwyf yn ei gasáu, a gwnaethoch Fy ngelyn yn gyfaill. Serch hynny, rydych yn cerdded Fy naear yn ddi-hid ac yn hunanfodlon, heb sylwi fod Fy naear wedi blino arnoch a phopeth ynddo yn eich osgoi. Pe byddech ond yn agor eich llygaid, byddai’n well gennych, mewn gwirionedd, fyrdd o drallodion na’r llawenydd hyn, a byddech yn ystyried marwolaeth ei hun yn rhagorach na’r bywyd hwn.
O FFURF SYMUDOL LLWCH!
Dymunaf gymundeb â thi, ond nid wyt yn ymddiried ynof. Mae cleddyf dy wrthryfel wedi torri coeden dy obaith. Rwyf yn agos atat bob amser, ond rwyt ymhell oddi wrthyf yn wastadol. Dewisais ogoniant anfeidrol ar dy gyfer, ond eto cywilydd diderfyn a ddewisaist dros dy hun. Tra fod eto amser, dychwel, a phaid â cholli dy gyfle.
O FAB DYHEAD!
Am flynyddoedd meithion, ymdrechodd y doeth a’r dysgedig i ymgyrraedd at bresenoldeb yr Holl-Ogoneddus a methu; treuliasant eu bywydau yn Ei geisio, eto heb ganfod prydferthwch Ei wyneb. Tydi, heb fawr o ymdrech, a gyrhaeddaist dy nod, a heb geisio fe ganfyddaist gwrthrych dy gais. Eto, serch hynny, arhosaist mor ymhlyg yng ngorchudd yr hunan, fel na welodd dy lygaid brydferthwch yr Anwylyd, a’th law ni chyffwrddodd odre Ei wisg. Chwi sydd â llygaid i weled, canfyddwch a rhyfeddwch.
O DRIGOLION TEYRNAS CARIAD!
Ymosodwyd ar gannwyll tragwyddoldeb gan chwythiadau meidrol, a gorchuddiwyd prydferthwch Ieuenctid nefolaidd gan dywyllwch llwch. Camweddwyd yn erbyn pennaeth brenhinoedd cariad gan bobl gormes a charcharwyd colomen sancteiddrwydd yng nghrafangau’r dylluan. Mae trigolion pafiliwn y gogoniant a’r cyntedd nefolaidd yn cwynfan a marwnadu, tra eich bod chi’n gorffwys yn nheyrnas esgeulustod, ac yn ystyried eich hunain yn un o’r gwir gyfeillion. Mor falch yw dy ddychmygion!
O CHWI FFYLIAID, A YSTYRIR ETO YN DDOETH!
Paham ydych yn gwisgo gwedd bugeiliaid, tra’n fewnol rydych wedi ymdebygu i fleiddiaid, â’ch bryd ar Fy mhraidd? Cyffelyb ydych i seren a gwyd gyda’r wawr, ac sydd, er yn ymddangos yn ddisglair ac yn llachar, yn camarwain fforddolion Fy nheyrnas i lwybrau damnedigaeth.
O CHWI SY’N YMDDANGOS YN DEG OND SYDD ETO’N FFIAIDD O’CH MEWN!
Rydych fel dw^r croyw ond chwerw, sydd o wedd allanol yn ymddangos yn bur fel crisial, ond pan fe y profir ef gan y Barnwr nefolaidd, ni dderbynnir diferyn. Yn wir, tywynna’r haul yn yr un modd ar y llwch ac ar y drych, ond gwahaniaethant yn eu hadlewyrchiad megis y gwna’r seren a’r ddaear: yn wir, mae’r gwahaniaeth yn anfesuradwy!
O FY NGHYFAILL YN Y BYD!
Myfyria am ychydig. A glywaist erioed y dylai cyfaill a gelyn drigo yn yr un galon? Bwrw allan y dieithryn felly, fel y bydded i’r Cyfaill ddyfod i’w gartref.
O FAB Y LLWCH!
Ordeiniwyd popeth yn y nefoedd a’r ddaear i ti, oddi eithr i’r galon ddynol, a wnaethpwyd gennyf yn drigfan Fy mhrydferthwch a’m gogoniant, ac eto, rhoddaist Fy nghartref a’m trigfan i un arall oddi eithr i Mi; a pha bryd bynnag y ceisiodd amlygiad Fy sancteiddrwydd Ei drigfan Ei hun, canfu ddieithryn yno, ac yn ddigartref, brysiodd i gysegr yr Anwylyd. Serch hynny, cuddiais dy gyfrinach ac ni ddymunais dy gywilydd.
O HANFOD DYMUNIAD!
Ar lawer gwawr y troais o deyrnas y Disafle i’th drigfan, a’th ddarganfod ar wely esmwythyd yn ymbrysuro dy hun ag eraill oddi eithr Myfi. Gyda hynny, megis fflach yr ysbryd, dychwelais i deyrnas y gogoniant nefolaidd ac ni soniais amdano wrth luoedd sancteiddrwydd yn Fy encilfa fry.
O FAB HAELIONI!
Allan o eangderau diddymdra, drwy glai Fy ngorchymyn y perais i ti ymddangos, ac ordeiniais bob atom mewn bod ac yn hanfod pob peth a grëwyd ar gyfer dy hyfforddiant. Felly, er i ti ddeillio o groth dy fam, tynghedais i ti ddwy ffynnon o laeth gloyw, llygaid i wylio drosot, a chalonnau i’th garu. Yn fy ngofal cariadus, o dan gysgod Fy nhrugaredd Fe feithriniais di, ac fe’th warchodais drwy hanfod Fy ngras a’m ffafr. A fy mwriad yn hyn oll oedd i ti ennill Fy Arglwyddiaeth dragwyddol a theilyngu Fy rhoddion anweledig. Ac eto, anystyriol wyt o hyd, a phan yn dy lawn dwf, esgeulusaist Fy holl roddion a phrysuro dy hun â dychmygion ofer, yn y fath fodd a berodd i ti anghofio popeth, ac, gan droi ymaith oddi wrth gynteddau dy Gyfaill trigaist yn llysoedd Fy ngelyn.
O GAETHWAS Y BYD!
Ar lawer gwawr chwythodd awel Fy ngofal cariadus drosot a dy ganfod mewn trwmgwsg ar wely esgeulustod. Gan gwynfan oherwydd dy gyflwr dychwelodd i’r man y daeth.
O FAB Y DDAEAR!
Mynnwn i ti Fy nerbyn, ni cheisia arall oddi eithr Myfi; a mynnwn pe byddet yn syllu ar Fy mhrydferthwch, ac yn cau dy lygaid ar y byd a phob peth sydd ynddo; canys ni all Fy ewyllys I ac ewyllys un arall oddi eithr Myfi, megis dw^r a thân, drigo yn yr un galon.
O DDIEITHRYN SY’N GYFAILL!
Cynnir cannwyll dy galon drwy nerth Fy llaw, na ddiffodd ef gan wyntoedd croes yr hunan ac angerdd. Iachawr dy holl ofidiau yw cofio amdanaf, nac anghofia hynny. Gwna Fy nghariad yn drysor i ti a gofala amdano megis dy olwg a’th fywyd dy hun.
O FY MRAWD!
Gwranda’n astud ar eiriau hyfryd Fy nhafod melys, ac þf y llifeiriant o sancteiddrwydd cyfriniol o’m gwefusau siwgr. Heua had Fy noethineb nefolaidd ym mhridd pur dy galon, a dyfrha hwy â dw^r argyhoeddiad, fel y boed i hiasinth Fy ngwybodaeth a’m doethineb egino’n ifanc a glas yn nheyrnas gysegredig dy galon.
O DRIGOLION FY MHARADWYS!
Gyda dwylo’r gofal cariadus plannais goeden ifanc eich cariad a’ch cyfeillgarwch yng ngardd sanctaidd paradwys, a’i ddyfrhau gyda chawodydd daionus Fy ngras tyner; yn awr ar awr ei ffrwytho, ymdrechwch fel yr amddiffynned ef, a pheidiwch gael eich llyncu gan fflam dyhead ac angerdd.
O FY NGHYFEILLION!
Diffoddwch lusern cyfeiliorni, ac enynnwch yn eich calonnau fflam dragwyddol arweinyddiaeth ddwyfol. Canys, cyn bo hir, ni fydd barnwyr dynol ryw, ym mhresenoldeb sanctaidd yr Un Hoff, yn derbyn dim oddi eithr y rhinwedd puraf a gweithredoedd o sancteiddrwydd glân.
O FAB Y LLWCH!
Y doeth yw’r rhai hynny nad ydynt yn siarad oni fo ganddynt wrandawiad, megis y trulliad nad yw’n cynnig ei gwpan heb yn gyntaf ddarganfod derbynnydd, a’r carwr nad yw’n galw allan o ddyfnderoedd ei galon nes syllu ar brydferthwch ei anwylyd. Plannwch felly hadau doethineb a gwybodaeth ym mhridd pur y galon, a’u cadw’n gudd, nes i hiasinth y doethineb dwyfol egino o’r galon ac nid o laid a chlai.
Cofnodwyd ac ysgrifennwyd ar linell gyntaf y Llechen, ac yn guddiedig o fewn cysegr tabernacl Duw y mae:
O FY NGWAS!
Na chefna ar Arglwyddiaeth dragwyddol er mwyn yr hyn sy’n darfod, ac na fwria ymaith sofraniaeth nefolaidd er mwyn dyhead bydol. Dyma afon bywyd tragwyddol a lifodd o darddle geiriau’r trugarog, iach yw’r rhai a y^f ohono!
O FAB YR YSBRYD!
Chwâl dy gell, ac megis ar ffurf ffenics cariad, esgyn i ffurfafen y sanctaidd. Gwada dy hun ac, yn llawn ysbryd trugaredd, triga yn nheyrnas y cysegr nefolaidd.
O BLENTYN Y LLWCH!
Na fodlona ar dreigl hawdd y dydd, a phaid amddifadu dy hun o orffwys tragwyddol. Na chyfnewidia ardd hyfrydwch tragwyddol am domen ludw byd meidrol. Esgyn o’th garchar i’r dolydd gogoneddus fry, ac o’th gell feidrol heda i baradwys y Disafle.
O FY NGWAS!
Ryddha dy hun o hualau’r byd hwn, a ryddha dy enaid o garchar yr hunan. Achub ar dy gyfle, canys ni ddaw i ti eto.
O FAB FY LLAWFORWYN!
Petaet yn canfod sofraniaeth anfeidrol, byddet yn ymdrechu i adael y byd byrhoedlog hwn. Ond mae’r modd y cuddir un rhagot a y datgelir y llall i ti yn ddirgelwch y deallir oddi eithr gan y sawl â chalon bur.
O FY NGWAS!
Pura dy galon o falais ac, yn ddiniwed o genfigen, dos i mewn i lys dwyfol sancteiddrwydd.
O FY NGHYFEILION!
Cerddwch ar hyd llwybr dymuniad daionus y Cyfaill, a byddwch wybyddus fod Ei bleser Ef ym mhleser Ei greaduriaid. Hynny yw: ni ddylai unrhyw ddyn fyned i mewn i dþ ei gyfaill ond trwy ddymuniad ei gyfaill, na chyffwrdd â’i drysorau na mynnu ei ewyllys ei hun rhagor nac ewyllys ei gyfaill, na cheisio mantais arno mewn unrhyw fodd. Myfyriwch ar hyn, chwi a fedd graffter!
O GYDYMAITH FY NGORSEDD!
Na glyw ddrygioni, ac na wêl ddrygioni, nac ymostynga dy hun, na ochneidier na wylo. Na ddywed pethau drygionus, fel na ddyweder drygioni amdanat, ac na chwydda feiau eraill fel na fydded i’th feiau dy hun ymddangos yn fawr; a phaid dymuna darostyngiad unrhyw un, fel na ddatgelir dy ddarostyngiad dy hun. Byw felly ddyddiau dy fywyd, sy’n llai nag eiliad chwim, gyda’th feddwl yn lan, dy galon yn ddilychwin, dy feddyliau’n bur, a dy anian wedi ei sancteiddio, fel y boed i ti, yn rhydd a bodlon, rhoi’r ffrâm feidrol hon o’r neilltu, a dychwel i’r baradwys gyfriniol a thrigo yn y deyrnas dragwyddol byth bythoedd.
GWAE! O WAE! O GARWYR DYHEADAU BYDOL!
Megis cyflymder mellt aethost heibio’r Un Annwyl, a rhoi dy fryd ar chwantau satanaidd. Rydych yn plygu eich clun o flaen eich dychmygion balch a’i alw’n wirionedd. Rydych yn edrych tuag at y ddraenen, a’i alw’n flodyn. Ni anadlwyd un anadl pur gennych, ac ni chwythodd awel gwrthrychedd dros ddolydd eich calon. Taflasoch gynghorion cariadus yr Anwylyd i’r gwynt a’u dileu’n llwyr o lechau eich calonnau, ac megis bwystfilod y maes, rydych yn symud ac yn bodoli o fewn porfeydd blys ac angerdd.
O FRODYR YN Y LLWYBR!
Paham yr esgeulusasoch grybwyll yr Un Annwyl, a chadw ymhell o’i bresenoldeb sanctaidd Ef? Mae hanfod prydferthwch o fewn y pafiliwn anghymesur, wedi ei osod ar orsedd gogoniant, tra eich bod chi’n ymdrafferthu eich hunain ag ymrysonau ofer. Mae peraroglau sancteiddrwydd yn anadlu ac fe chwythir anadl haelioni, ac eto rydych oll mewn cystudd ac yn amddifad ohonynt. Gwae chwi, a’r sawl sy’n cerdded yn eich llwybrau ac yn dilyn ôl eich traed!
O BLANT DYHEAD!
Rhowch wisg rhodres o’r neilltu, a dadwisgwch ddillad trahauster.
Yn y drydedd o’r llinellau sancteiddiolaf a ysgrifennwyd a chofnodwyd ar y Llechen Ruddem gan ysgrifbin yr anweledig, datgelwyd hyn:
O FRODYR!
Byddwch amyneddgar o’ch gilydd a pheidiwch rhoi eich bryd ar bethau isel. Peidiwch ymfalchïo yn eich gogoniant, a pheidiwch cywilyddio mewn darostyngiad. O Fy Mhrydferthwch! Creais bob peth o lwch ac i lwch y dychwelaf hwy drachefn.
O BLANT Y LLWCH!
Dywedwch wrth y cyfoethog am ocheneidiau’r tlawd ganol nos, rhag i esgeulustod eu harwain i lwybr dinistr, a’u hamddifadu o Goeden Cyfoeth. Mae rhoddi a haelioni yn briodoleddau i Mi; daw daioni i’r hwn a addurno eu hunan â’m rhinweddau.
O HANFOD ANGERDD!
Bwria ymaith pob trachwant a cheisia fodlonrwydd; canys amddifadwyd y trachwantus, ac fe garwyd a chanmolwyd y rhai bodlon.
O FAB FY LLAWFORWYN!
Na fydd bryderus mewn tlodi na’n hyderus mewn cyfoeth, canys dilynir tlodi gan gyfoeth, a dilynir cyfoeth gan dlodi. Eto, mae bod yn dlawd ym mhob peth oddi eithr Duw yn rodd rhyfeddol, na fychanwch felly ei werth, canys yn y pen draw fe fydd yn eich cyfoethogi yn Nuw, ac felly y byddwch yn gwybod ystyr y dywediad, “Mewn gwirionedd chi yw’r tlodion,” a bydd y geiriau sanctaidd, “Duw yw’r holl feddiannol”, megis gwawr y gwir fore yn torri’n ogoneddus ddisglair dros orwel calon y carwr, a thrigo’n ddiogel ar orsedd cyfoeth.
O BLANT ESGEULUSTOD AC ANGERDD!
Yr ydych wedi caniatáu i’m gelyn ddyfod i mewn i’m ty^ a thaflu allan Fy nghyfaill, canys yr ydych wedi cysegru cariad at arall yn eich calonnau. Gwrandewch ar ddywediadau’r Cyfaill a throwch tuag at Ei baradwys. Gyfeillion bydol, sy’n ceisio eu daioni eu hunain, yn ymddangos i garu ei gilydd, tra fod y gwir Gyfaill wedi eich caru ac yn eich caru er lles eich hunain; yn wir, dioddefodd Ef amryw o brofedigaethau er mwyn eich arweiniad. Na fyddwch anffyddlon i’r fath Gyfaill, yn hytrach brysiwch tuag ato. Un felly yw seren fore gair y gwirionedd a ffyddlondeb, a wawriodd uwch orwel dysg Tad pob enw. Agorwch eich clustiau fel y boed i chi glywed gair Duw, y Cymorth mewn perygl, yr Hunanfodol.
O CHWI A YMFALCHÏA MEWN CYFOETH MEIDROL!
Byddwch ymwybodol, mewn gwirionedd, fod cyfoeth yn rhwystr nerthol rhwng y ceisiwr a’i ddyhead, y carwr a’i anwylyd. Ni fydd y cyfoethog, oddi eithr ychydig, yn ymgyrraedd at lys Ei bresenoldeb mewn unrhyw fodd nac yn myned i mewn i ddinas bodlonrwydd ac ymostyngiad. Daw daioni felly i’r sawl, o fod yn gyfoethog, na rwystrir o’r deyrnas dragwyddol gan eu cyfoeth, ac na amddifadir gan eu cyfoeth o’r Arglwyddiaeth anfeidrol. O’r Enw Mwyaf Mawr! Bydd gogoniant dyn mor gyfoethog a hynny yn goleuo trigolion y nefoedd megis y goleua’r haul bobloedd y ddaear!
O CHWI GYFOETHOGION AR Y DDAEAR!
Fy ymddiriedolaeth i yw’r tlodion yn eich mysg; gwarchodwch chi Fy ymddiriedolaeth, ac na roddwch eich holl fryd ar eich esmwythyd eich hunan.
O FAB ANGERDD!
Pura dy hun o halogiad cyfoeth ac mewn heddwch perffaith dos yn dy flaen i deyrnas tlodi; fel y boed i ti, o ffynnon gwrthrychedd, yfed gwin y bywyd tragwyddol.
O FY MAB!
Cwmni’r annuwiol a gynydda dristwch, tra fod cyfeillach gyda’r cyfiawn yn glanhau’r rhwd o’r galon. Boed i’r sawl sy’n ceisio cymundeb â Duw, fyned ei hun at gwmnïaeth y rhai sy’n Ei garu; a boed i’r sawl sy’n dymuno gwrando ar air Duw wrando ar eiriau Ei etholedig rai.
O FAB Y LLWCH!
Gocheler! Na cherdda gyda’r annuwiol ac na cheisia ei gyfeillach, canys y mae’r fath gwmnïaeth yn troi disgleirdeb y galon yn dân uffernol.
O FAB FY LLAWFORWYN!
Mynnaf i ti geisio gras yr Ysbryd Sanctaidd, cais gyfeillach â’r cyfiawn, canys y mae ef wedi yfed o gwpan y bywyd tragwyddol oddi wrth law y Trulliad anfeidrol megis y mae’r wir wawr yn bywhau a goleuo calonnau’r meirw.
O’R RHAI ANYSTYRIOL!
Peidiwch a meddwl bod cyfrinachau’r galon yn gudd, yn hytrach, gwybyddwch mewn sicrwydd eu bod wedi eu hysgythru mewn llythrennau eglur a’u bod yn amlwg agored yn y Presenoldeb sanctaidd.
O GYFEILLION!
Yn wir dywedaf, mae pa beth bynnag a guddiwch chi yn eich calonnau mor agored ag amlwg i Ni megis y mae’r dydd; ond y mae wedi ei guddio oddi wrth Ein gras a’n bendith, ac nid yw’n haeddiant i chi.
O FAB Y DYN!
Gollyngais ddafn o wlith o fôr diderfyn Fy nhrugaredd ar bobloedd y byd, ond ni throdd neb ato, yn gymaint â bod pawb wedi cefnu ar win nefolaidd undod a throi at waddodion aflan amhurdeb, ac, yn fodlon ar y cwpan meidrol, bwriasant ymaith gwpan y prydferthwch anfarwol. Ffiaidd yw’r hyn sy’n eu bodloni.
O FAB Y LLWCH!
Na thro dy lygaid oddi wrth win anghymarus yr Anwylyd anfeidrol, ac na egyr hwy i waddodion ffiaidd a meidrol. Cymer gwpan y bywyd tragwyddol o ddwylo'r Trulliad dwyfol fel bydded i bob doethineb fod yn eiddo i ti a bydded i ti wrando ar y llais cyfrin yn galw o deyrnas yr anweledig. Datgan yn uchel, chi sydd o uchelgais fas! Paham troesoch ymaith oddi wrth Fy ngwin sanctaidd ac anfeidrol at ddyfroedd darfodedig?
O CHI BOBL Y BYD!
Gwybydder, yn wir, fod trychineb na ragwelwyd yn eich dilyn, a bod dialedd difrifol yn eich disgwyl. Peidiwch meddwl y dilëir yr hyn a gyflawnwyd gennych yn Fy ngolwg. O Fy Mhrydferthwch! Mae Fy ysgrifbin wedi nodi eich holl weithredoedd mewn llythrennau eglur ar lechen eurfaen.
O ORMESWYR AR Y DDAEAR!
Tynnwch eich dwylo’n oddi wrth ormes, canys yr wyf wedi addunedu fy hun i beidio maddau anghyfiawnder unrhyw ddyn. Dyma Fy nghyfamod a ordeiniwyd gennyf yn annileadwy ar y llechen gadwedig ac a seliwyd â’m sêl.
O’R RHAI GWRTHRYFELGAR!
Fe’ch gwnaethpwyd yn ddewr gan Fy amynedd a’m hir-ddioddef a’ch gwnaethoch yn esgeulus, yn y fath fodd nes eich bod wedi sbarduno march tanllyd angerdd ar hyd y ffyrdd peryglus sy’n arwain at ddinistr. A ystyrioch Fi’n anystyriol neu’n anymwybodol?
O YMFUDWYR!
Y tafod a greais er mwyn Fy nghrybwyll, na ddifwyner Ef ag anfri. Os bydd i dân yr hunan dy orchfygu, dwyn i gof dy feiau dy hun ac nid beiau Fy nghreaduriaid, gan fod pob un ohonoch yn adnabod eich hunain yn well nag yr ydych yn adnabod eraill.
O BLANT CHWANT!
Gwbyddwch, yn wir, tra fod y wawr ddisglair yn torri dros orwel gogoniant tragwyddol, y bydd y cyfrinachau a'r gweithredoedd satanaidd a wnaed yn nhywyllwch y nos yn cael eu taenu ar led a'u hamlygu o flaen pobloedd y byd.
O CHWYN A FLODEUA O LWCH!
Paham na chyffwrddodd y dwylo aflan hyn â’th wisg dy hun yn gyntaf, a pham, â’th galon yn llawn dyhead ac angerdd wyt ti'n ceisio cymundeb â Mi a dyfod i mewn i’m teyrnas gysegredig ? Pell, pell ydych chi oddi wrth yr hyn yr ydych yn ei ddymuno.
O BLANT ADDA!
Geiriau sanctaidd a gweithredoedd pur a daionus a esgyn i nefoedd y gogoniant nefolaidd. Ymdrechwch, fel y bydded i’ch defodau gael eu glanhau o lwch yr hunan ac o ragrith a cheisiwch fendith yn llys gogoniant; canys cyn hir bydd barnwyr dynol rhyw, ym mhresenoldeb sanctaidd yr Un Hoff, yn derbyn dim oddi eithr rhinwedd llwyr a gweithredoedd o burdeb dilychwin. Dyma seren fore doethineb a dirgelwch dwyfol a ddisgleiriodd uwch orwel yr ewyllys dwyfol. Gwyn eu byd y rhai sy’n troi ato.
O FAB BYDOLRWYDD!
Hyfryd yw teyrnas bodolaeth, pe byddet i ymgyrraedd ato; gogoneddus yw tiriogaeth tragwyddoldeb, pe byddet i fyned heibio i fyd y meidrol; melys yw’r llesmair sanctaidd pe byddet i yfed o’r cwpan cyfrin o ddwylo’r Ieuenctid nefolaidd. Pe byddet i ymgyrraedd at y safle hwn, fe ryddheir di o ddinistr a marwolaeth, o lafur a phechod.
O FY FFRINDIAU!
Galwch i gof y cyfamod a wnaethoch â Mi ar Fynydd Párán, rhowch eich hunain yng nghyffiniau sanctaidd Zamán. Ymgymerais â thystio i gyntedd y deyrnas fry a thrigolion dinas tragwyddoldeb, eto, yn awr, nid wyf yn canfod un sy’n ffyddlon i’r cyfamod. Yn sicr, balchder a gwrthryfel a’i dileodd o'r calonnau, yn y fath fodd nad adawyd arlliw ohono ar ôl. Eto, gan wybod hyn; arhosais heb ei ddatgelu.
O FY NGWAS!
Rwyt megis cleddyf a dymherwyd yn goeth ac a guddiwyd yn nhywyllwch ei wain a'i werth ynghudd oddi wrth ddirnadaeth y crefftwr. Tyrd allan felly o wain yr hunan a dyhead fel y boed i’th werth fod yn ogoneddus ac yn amlwg i’r holl fyd.
O FY NGHYFAILL!
Ti yw seren fore nefoedd Fy sancteiddrwydd, na fydded i halogiad y byd gysgodi dy ogoniant. Bwrw ymaith orchudd esgeulustod fel y boed i ti ymddangos yn ysblennydd o du ôl i’r cymylau ac addurno popeth â gwisg bywyd.
O BLANT RHODRES!
Gadawsoch Fy Arglwyddiaeth annarfodedig am sofraniaeth fyrhoedlog, gan addurno eich hunain â lifrai lliwgar y byd ac ymfalchïo ynddynt. O Fy mhrydferthwch! Ymgasglaf bawb dan orchudd unlliw y llwch a dileu’r amrywiol liwiau hyn oddi eithr i’r rhai hynny a ddewis Fy lliw i, a dyna fydd puro pob lliw.
O BLANT ESGEULUS!
Na rhoddwch eich bryd ar sofraniaeth feidrol ac na ymfalchïwch ynddo. Rydych megis yr aderyn anwyliadwrus sy’n canu’n llawn hyder ar y gangen; nes yn sydyn mae’r heliwr Marwolaeth yn ei daflu i’r llwch, ac mae’r alaw a'r ffurf a’r lliw yn diflannu, heb adael eu hôl. O weision dyhead!
O FAB FY LLAWFORWYN!
Trwy eiriau y rhoddwyd arweiniad erioed, yn awr fe'i rhoddir drwy weithredoedd. Rhaid i bawb arddangos gweithredoedd sy'n bur ac yn sanctaidd, canys mae geiriau yn eiddo i bawb, tra gweithredoedd fel rhain eiddo ein hanwyliaid ydynt yn unig. Ymdrechwch felly gyda chalon ac enaid i ragori eich hun yn eich gweithredoedd. Yn y modd hwn yr ydym yn eich cynghori ar y llechen santaidd ac ardderchog hon.
O FAB CYFIAWNDER!
Yn nhymor y nos ymgiliodd prydferthwch y Bod anfeidrol o uchelder emrallt ffyddlondeb i’r Sadratu’l-Muntahá, ac fe wylodd gyda'r fath wylo nes i’r cyntedd fry a thrigolion y teyrnasoedd oddi uwch wylo oherwydd Ei alaru. Ac ar hynny fe ofynnwyd, Paham y cwynfan a'r wylofain? Atebodd: Fel y gofynnwyd i mi, arhosais yn ddisgwylgar ar fynydd ffyddlondeb, eto ni anadlais arogleuon ffyddlondeb oddi wrth drigolion y ddaear. Yna, wedi fy ngalw yn ôl, fe welais, ac wele! roedd rhai o golomennod sancteiddrwydd yn cael eu trin yn druenus gan grafangau cðn y ddaear. Ar hynny, ymddangosodd Morwyn y nefoedd yn ddiorchudd ac yn ddisglair o’i phalas cyfrin, a gofyn iddynt eu henwau, a dywedwyd pob un namyn un. Ac wedi anogaeth, ynganwyd y lythyren gyntaf ohono, ac ar hynny, rhuthrodd trigolion y siambrau nefolaidd o’u trigfan ogoneddus. Ac wrth i’r ail lythyren gael ei chyhoeddi, syrthiasant, un ag oll, i’r llwch. Ac ar hynny, clywyd llais o’r cysegr eithaf: “Cyn belled a dim pellach.” Felly yr ydym yn dwyn tystiolaeth i’r hyn a wnaethant ac y maent yn ei wneud ar hyn o bryd.
O FAB FY LLAWFORWYN!
Yf afon y dirgelwch dwyfol o dafod y trugarog, ac wele ysblander amlwg seren fore doethineb yn nharddle'r lleferydd dwyfol. Heuwch hadau Fy noethineb dwyfol ym mhridd pur y galon, a dyfrhewch hwy â dyfroedd sicrwydd, boed i hiasinthau gwybodaeth a doethineb egino yn ifanc a glas o ddinas sanctaidd y galon.
O FAB DYHEAD!
Pa hyd yr hed yn nheyrnasoedd dyhead? Rhoddais adenydd i ti fel y bydded i ti hedfan i deyrnasoedd sancteiddrwydd cyfrin ac nid i barthau chwantau satanaidd. Y grib hefyd a roddais i ti fel y medret gribo Fy nghydynnau duon, ac nid i rwygo Fy ngwddf.
O FY NGWEISION!
Chwi yw coed Fy ngardd; rhaid i chi ddwyn ffrwythau daionus a rhyfeddol, fel y boed i chi ac eraill elwa ohonynt. Mae’n ddyletswydd felly ar i bob un i ymroi i grefftau a phroffesiynau, oherwydd yno mae cyfrinach cyfoeth, O ddynion deallus! Canys mae canlyniadau yn dibynnu ar y moddion, a bydd gras Duw yn holl-ddigonol i chi. Bwriadwyd coed nad sy'n dwyn ffrwyth ar gyfer y tân ac felly y bydd byth.
O FY NGWAS!
Yr isaf o ddynion yw’r rhai nad ydynt yn dwyn ffrwyth ar y ddaear. Yn wir, ystyrir y dynion hynny megis fel ymhlith y meirwon, nage, gwell yw’r meirwon yng ngolwg Duw na’r eneidiau ofer a di werth hynny.
O FY NGWAS!
Y gorau o ddynion yw’r rhai hynny sy’n ennill bywoliaeth trwy eu galwedigaeth ac sy’n talu sylw i'w hunain a’u tylwyth yn enw cariad Duw, Arglwydd yr holl fydoedd.
Y Briodferch gyfrin a rhyfeddol, yn guddiedig cyn hyn dan orchudd mynegiant, yn awr, drwy ras Duw a’i fendith ddwyfol, sydd wedi ei hamlygu megis y golau a ddisgleirir gan brydferthwch yr Anwylyd. Tystiaf, O gyfeillion! bod y fendith yn gyflawn, y prawf yn amlwg a’r dystiolaeth wedi ei sefydlu. Boed i ni, yn awr, weled yr hyn a ddatgelir gan eich ymdrechion ar lwybr gwrthrychedd. Yn y modd yma, y mae’r fendith ddwyfol wedi ei gadw i ti ac i’r sawl sydd yn y nefoedd ac ar y ddaear. Molwch yr Arglwydd, Arglwydd yr holl Fydoedd.